Sunday, October 08, 2006

Jack Straw


Ma Jack Staw wedi cynnu drafodaeth etha ffyrnig am menwod mwslemaidd yn wisgo y gwisg nw sy'n orchuddio ei corff. O'n i'n trafod y peth heddi dros cino a o'n i yn meddwl y peth, ar un llaw ma nw yn wlad rhywun arall a dylid fod yn gwrtais a ddim ceisio sefyll allan ond ma'r gwlad hyn yn wlad i nw os ma nw am byw yma felly mae gennynt yr hawl fel unryw un i wisgo fel maent eisiau . A mae un o'r prif rheolau yn y wlad sef y rhyddiaeth sydd gennym. Mae hefyd yn grefydd i nw a dylai ni parchu hyni, ma beth ma Jack Staw yn mynd trwy ddim yn rhywbe sydd yn rhoi poen iddo neu yn wneud iddo cael ofn fel ma rhai o'r bwlian ma mwslemiaid yn cal gan y skin heads a pobl fel BNP.


Hefyd faint mor anghyffyrddis mae ddynio a fenwod mwslemiaid yn teimlo gan siarad gyda menwod sydd yn wisgo braidd ddim a hyn yn gwbwl draws i'w cred.(dw'i ddim yn gweud dylai menwod wisgo i rheolau, just pwynt i codi)


Mae hefyd yn pwynt bod ni yn barnu y wisg gan ddweud fod nw yn ffyndimental a fod crefydd ffyndimental yn wael a fod ni yn y gorllewin yn liberal. Neu ydyn ni y ffyndimental o liberal yn y gorllewin ac yn barnu y pobl ffyndimental crefyddol yn lle acceptio ei wahaniaethau fel ma wir natur fod yn liberal yn feddwl. Mae fel y ddai ochr eithafol yn y rhyfel oer o comiwnyddion a'r capitalists eithafol yn galw ei gilyd yn eithafol.

Gan aros at y ddau ochr ma a cadw gap rhyngddon ni rydym fel dau carreg yn bwrw yn erbyn ein gilydd ond os ydyn ni yn troi yn liberal a troi yn hyblug fel dwr mae ddim llawer o pethau fydd gan yr eithafol crefyddol i cwyno amdano a fydd y ddwr fel petai yn erydi i ffwrdd y carreg o creffydd ffyndimental.

2 Comments:

Blogger Rhys Wynne said...

Dwi gyda teimladau cymysg am y peth. Ar un llaw allai weld sut mae Jack Straw yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad gyda rhywun yn gwisgo mwgwd. byddwn i'n teimlo yr un peth dwi'n siwr, ond bach iawn yw fy mhrofiad i o'r sefyllfa. Mae fy nghariad yn gweithio i lyfrgell prifysgol ac yn cwrdd o pobl yn y wisg lawn yn aml. Er ei bod yn 'bleeding heart liberal' fel fi, mae hi yn dweud i bod yn teimlo'n anghyffyrddus ddim yn gweld gwyneb y person.

Wedi dweud hyn i gyd, dwi'n flin gyda fi'n hun am fod ag ofn dilledun. A thra dwi'n ei weld yn beth gwbwl hurt ac afresymol i'w wisgo (sut all menyw ddweud eu bod yn 'liberating'?). tydw i ddim yn fenyw nag yn fwslem, felly sut allaf wybod sut mae hi'n teimlo - mae'n debyg bod pobl yn teimlo'r un rhwystredigaeth gyda ni siaradwyr Cymraeg, pam ydym yn mynnu bod yn wahanol i bawb arall a siarad iaith gwirion pa allwn ymddynfel pawb arall digon hawdd? Ddim yn gymhariaeth gwbwl deg efallai.

2:59 AM  
Blogger Chop said...

Pwynt da rhysw am y cymraeg, dwi heb edrych arno fe fel na oflaen.

11:51 AM  

Post a Comment

<< Home